CAW97 Comisiynydd Plant Cymru

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Comisiynydd Plant Cymru

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Cefnogaeth ar gyfer egwyddor

Rwy’n cefnogi egwyddor cwricwlwm newydd i ddisodli’r un a luniwyd yn 1988. Mae digonedd o dystiolaeth ynghylch yr angen i blant a phobl ifanc yng Nghymru dderbyn hawliau cwricwlwm newydd a mwy perthnasol  ac mae dull gweithredu cenedlaethol wedi bod yn cael ei ddatblygu ers sawl blwyddyn, gyda chefnogaeth gyffredinol y proffesiwn addysgu.  Rwy’n cefnogi diffinnio’r cwricwlwm ar ffurf cyfres eang o ddyletswyddau sy’n sefydlu’r hyn y mae hawl i’w dderbyn a chysondeb cenedlaethol, ond hefyd yn galluogi ymarferwyr i ddefnyddio proffesiynoldeb a gallu creadigol i ymateb i anghenion a diddordebau plant a phobl ifanc. Elfen bwysig yw fy marn y dylai plant a phobl ifanc eu hunain gael eu cynnwys wrth lunio a ffurfio eu dysgu eu hunain, ac mae’r model hwn yn caniatáu hynny (er y gallai fynd ymhellach yn hynny o beth, fel rwy’n amlinellu yn fy mhwyntiau isod). Rwy’n cefnogi pob un o’r pedair egwyddor allweddol a nodwyd ym mharagraff 3.8 o’r memorandwm esboniadol: mae hynny’n cynnwys natur bwrpasol y cwricwlwm, a’r dibenion eu hunain, sy’n cyd-fynd ag egwyddorion Sylw Rhif 1 ar Erthygl 29: Nodau Addysg.

Dyletswydd sylw dyledus i CCUHP

Ond er bod y Llywodraeth wedi derbyn fy argymhelliad yn Adroddiad Blynyddol 2017/18 bod ‘dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn sylfaen ar gyfer yr egwyddorion sy’n llywio darparu’r cwricwlwm’ , ers hynny mae’r Llywodraeth wedi gwrthod fy ngalwad am roi dyletswydd sylw dyledus i CCUHP ar wyneb y Bil. Trwy wrthod hynny, gwnaeth y Llywodraeth yr honiad cyfeiliornus bod dyletswydd o’r fath yn ddiangen oherwydd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Nid yw’r honiad hwn yn dal dŵr; fel sy’n amlwg yn y Bil hwn, bydd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod modd gwneud mwy o benderfyniadau ynghylch trefniadau’r cwricwlwm ac asesu, a sut mae’r rhain yn berthnasol i blant unigol, ar lefel yr ysgol. Mae sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i’r penderfyniadau a wneir gan Benaethiaid a Chyrff Llywodraethu ysgolion y tu hwnt i gwmpas y Mesur. Er bod llawer o blant, sydd yng ngofal arweinwyr ysgol ardderchog sy’n ymroddedig i’w hawliau, yn profi eu hawliau trwy eu haddysg, nid yw hynny’n wir yn achos pawb, fel sy’n dod i’r amlwg yn sgîl achosion o dynnu plant oddi ar gofrestrau’n answyddogol , diffyg cynrychiolaeth amrywiol yng nghynnwys y cwricwlwm , a diffyg cyfleoedd i gyfranogi .  Fe allai’r gwahaniaeth hwn yn sut mae plant yn profi eu hawliau gynyddu o dan y Bil newydd yma, gan ei fod yn rhoi mwy o ymreolaeth. Ni ddylid caniatáu i hawliau plant fod yn fater o siawns fel hyn.

Rwyf wedi cyhoeddi’n helaeth ynghylch manteision cynnwys dyletswydd sylw dyledus ar wyneb y Bil , ond yn hytrach nag ailadrodd y manteision i blant yma, byddaf yn esbonio rhai enghreifftiau o sut byddai’r ddyletswydd hon yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i wella’r Bil fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd, a sut y byddai’n gam llawer symlach na’r holl newidiadau niferus y byddai eu hangen i sicrhau bod y Bil yn cydymffurfio â CCUHP, pe na bai’r ddyletswydd yn cael ei chynnwys.

-           Bydd dyletswydd sylw dyledus yn sicrhau tegwch. Mae cynsail ar gyfer dyletswydd sylw dyledus yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Os nad yw’r Bil hwn yn cynnwys y ddyletswydd hon bydd hynny’n creu fframwaith deddfwriaethol anrhesymegol, lle mae gan rai plant a phobl ifanc, ond nid pawb ohonynt,  ddarpariaethau CCUHP yn y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud â’u haddysg. 

-           Bydd dyletswydd sylw dyledus yn cefnogi’r Bil hwn, a’i egwyddorion, i barhau.  Er mai Dyfodol Llwyddiannus yw’r glasbrint ar gyfer dylunio’r cwricwlwm nawr, erbyn i’r cwricwlwm ddod yn statudol ar gyfer pob grŵp blwyddyn, yn 2026, bydd dros ddegawd wedi mynd heibio ers ei gyhoeddi. Mae dibenion ac egwyddorion dylunio’r cwricwlwm a gyflwynir yn y Bil hwn yn fwy tebygol o fod yn hirhoedlog os ydynt wedi’u seilio ar CCUHP – fframwaith hawliau dynol rhyngwladol, gwleidyddol niwtral, sy’n gallu gwrthsefyll heriau gwleidyddol.

-           Bydd dyletswydd sylw dyledus yn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu rhannu. Mae gan Benaethiaid a Chyrff Llywodraethu bwerau o dan adrannau 33 (2) a 35 (4) sy’n eu galluogi i beidio â chymhwyso’r dysgu a’r addysgu a ddewiswyd gan ddisgybl o dan rai amgylchiadau. Ar hyn o bryd mae bylchau yn sut mae darpariaethau’r Bil yn sicrhau cyfranogiad yn y broses hon. Byddai dyletswydd sylw dyledus yn golygu y dylai plant a phobl ifanc fod yn rhan o’r penderfyniadau hyn, fel eu bod yn gallu dewis llwybr dysgu amgen y gall ysgol ei gefnogi. Heb ddyletswydd sylw dyledus bydd angen gwneud newidiadau i adrannau 33, 34 a 35 i alluogi cyfranogiad.

-           Bydd dyletswydd sylw dyledus yn helpu i sicrhau addysg grefyddol blwraliaethol wrth ddatblygu meysydd llafur lleol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Ar hyn o bryd nid yw’r Bil yn cynnwys darpariaeth i bob plentyn dderbyn addysg blwraliaethol ym maes crefydd. Mae hyn yn anghyson ag Erthygl 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Heb ddyletswydd sylw dyledus, bydd angen newidiadau sylweddol i Atodlen 1 i sicrhau ei bod yn cymryd hawliau plant i ystyriaeth. Hyd yn oed gydag amddiffyniadau CCUHP yn eu lle bydd angen rhai newidiadau i Atodlen 1 (a amlinellir yn fy ateb ar ddiwedd yr ymateb hwn), gan fod yr atodlen ar hyn o bryd yn mynd yn gwbl groes i hawliau plant. 

-           Byddai dyletswydd sylw dyledus yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hystyried wrth i’r cwricwlwm gael ei ddadgymhwyso ar gyfer dysgwyr ag ADY neu ddysgwyr eraill ar sail dros dro, a byddai’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan o’r penderfyniad hwnnw. Ar hyn o bryd nid yw’r Bil yn gofyn bod hawliau’r plentyn unigol yn cael eu hystyried pan fydd awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad i ddadgymhwyso’r cwricwlwm wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) neu Gynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal (AIG) (Adran 43 o’r Bil), ac nid yw’n pennu sut mae’r plentyn ei hun yn rhan o’r penderfyniad hwn, er y dylai hawliau plant gael eu cymryd i ystyried gan fod hyn yn gorgyffwrdd â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) (bydd yn rhaid egluro yn y Côd, sy’n dal heb ei lunio’n derfynol, sut bydd hynny’n digwydd wrth baratoi cynlluniau AIG). Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes darpariaeth o’r fath i ystyried hawliau plant heb ADY yn benodol pan gaiff y cwricwlwm ei ddadgymhwyso dros dro o dan adran 44 o’r Bil. Heb ddyletswydd sylw dyledus, bydd angen newidiadau sylweddol i adrannau 44, 45, 46, 47 a 48 i sicrhau lles pennaf y plentyn ac i nodi sut bydd plentyn yn rhan o’r penderfyniadau hyn. Mae’n rhaid i hyn gynnwys system eiriolaeth ar gyfer cyfranogiad plant, hyd yn oed pan fydd ‘penaethiaid o’r farn nad oes gan y disgybl gapasiti i ddeall’ [Adran 46 (5)].

-           Byddai dyletswydd sylw dyledus yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hystyried pan gynigir hawliau’r cwricwlwm yn rhannol yn unig i blant mewn lleoliadau EOTAS, a byddai’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan o’r penderfyniad yma.  Rwyf wedi cyflwyno tystiolaeth yn flaenorol i’r Pwyllgor hwn ynghylch sut mae pobl ifanc mewn darpariaeth EOTAS yn aml yn teimlo nad ydynt yn cyfranogi mewn penderfyniadau ynghylch eu haddysg, ac nad ydynt yn cael cyfle i adolygu penderfyniadau. Mae Adrannau 52-57 yn cyflwyno’r gofynion cwricwlwm penodol ar gyfer plant mewn lleoliadau EOTAS, a sut dylid adolygu hynny. Mae’r adrannau hyn yn gwneud un yn unig o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn orfodol, a rhai yn unig o’r gofynion gorfodol eraill sy’n berthnasol i ddysgwyr eraill. Nid wyf yn gwrthwynebu dull hyblyg o ymdrin â dysgwyr mewn darpariaeth EOTAS, gan y gallai hynny’n aml fod er lles pennaf y plentyn unigol. Fodd bynnag, rwy’n teimlo’n gryf bod angen mwy o fesurau diogelu nag sydd yn y Bil ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod penderfyniad yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli, neu’r athro sydd â gofal am UCD yn cael ei lywio gan hawliau’r plentyn a chyfranogiad y plentyn. Os na chaiff dyletswydd sylw dyledus ei chynnwys, bydd angen diwygio adrannau 52-57 yn sylweddol i sicrhau cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau. Mae hon yn enghraifft glir iawn o sut mae honiad y Llywodraeth nad oes angen dyletswydd sylw dyledus ar y Bil oherwydd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gamgymeriad llwyr: nid Gweinidogion Cymru sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch plant unigol, ond gweithwyr proffesiynol mewn cyd-destunau lleol, nad ydynt yn cael eu rhwymo gan Fesur 2011.   

-           Mae dyletswydd sylw dyledus yn golygu na all fframweithiau atebolrwydd i ysgolion arwain at benderfyniadau sy’n mynd yn groes i les pennaf plant unigol.      Rwy’n cefnogi’n gyffredinol y trefniadau gwerthuso a gwella newydd sy’n cael eu datblygu, ond nid yw’r ddeddfwriaeth ei hun yn cynnwys dim i sicrhau pedair prif egwyddor y trefniadau hyn, fel y disgrifir yn 3.122 o’r Memorandwm Esboniadol. Yn hytrach, y darpariaethau presennol ar gyfer gwerthuso a gwella fydd yn darparu’r sylfaen ddeddfwriaethol. Ond nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol wedi atal cyrhaeddiad rhag cael ei ddefnyddio mewn modd sy’n niweidiol i les pennaf plant unigol . Bydd trefniadau atebolrwydd yn destun newid a phwysau gwleidyddol parhaus, ond nid oes newid deddfwriaethol i sicrhau na fydd canlyniadau anfwriadol i blant megis tynnu oddi ar y gofrestr yn answyddogol neu gynnig cwricwlwm cul iawn, gyda ffocws ar arholiadau, sy’n gallu peri i lawer o bobl ifanc golli diddordeb.       Heb ddyletswydd sylw dyledus, bydd angen ystyried o ddifrif a ddylai fod newid deddfwriaethol i sicrhau nad yw atebolrwydd yn digwydd ar draul plant unigol, a ffocws ar y ffurf fwyaf effeithiol a allai fod i’r ddarpariaeth ddeddfwriaethol honno.

-           Byddai dyletswydd sylw dyledus yn golygu bod asesu plant a phobl ifanc yn cyd-fynd â hawliau plant ac yn cynnal datblygiad a llesiant optimwm. Mae’r nodau ar gyfer symud ymlaen, ac asesu ffurfiannol fel rhan o hynny, yr ymhelaethwyd arnynt yn y Memorandwm Esboniadol, yn cyd-fynd ag egwyddorion hawliau plant. Fodd bynnag, heb ddyletswydd sylw dyledus nid oes darpariaeth yn y ddeddfwriaeth sy’n sicrhau bod y Côd Dilyniant yn cael ei weithredu mewn lleoliadau (a rôl asesu yn hynny) yn unol â hawliau plant. Gyda dyletswydd sylw dyledus, bydd angen i leoliadau gymryd hawliau plant i ystyriaeth yn eu prosesau asesu, felly bydd angen i’r asesu adlewyrchu lles pennaf plant (Erthygl 3), eu cyfranogiad (Erthygl 12) a’u datblygiad optimwm (Erthygl 29).  Mae’n bwysig nodi bod asesu yn un o brif bryderon plant a phobl ifanc , a bod profiad cyfredol o asesu yn cyfrannu at orbryder, yn arbennig mewn ysgolion uwchradd.   Heb ddyletswydd sylw dyledus bydd angen newid Adrannau 58 a 59 o’r Bil fel eu bod yn adlewyrchu hawliau plant yn llawnach, ac i amddiffyn plant rhag effeithiau newidiol i’w llesiant yn sgîl asesu.

-           Byddai dyletswydd sylw dyledus yn helpu i sicrhau cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu.  Rwy’n croesawu’r ddarpariaeth yn y Bil ynghylch addasrwydd y cwricwlwm yn Adran 22, sy’n datgan bod ‘Rhaid i’r cwricwlwm fod yn addas ar gyfer disgyblion, neu blant gwahanol o ran oed, gallu a thueddfryd’. Fodd bynnag, rwy’n ansicr pa mor gynhwysol yn union fydd y cwricwlwm hwn i blant a phobl ifanc gwahanol. Mae’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb yn gwneud sawl honiad beiddgar, ond nid wyf yn sicr i ba raddau ceir tystiolaeth o’r rhain. Er enghraifft, mae’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb yn nodi ‘effaith gadarnhaol ar famau ifanc sy’n mynychu EOTAS, a fydd yn elwa o ddysgu wedi’i deilwra’n fwy i’w hanghenion a’u galluoedd, ac yn golygu ei fod yn haws iddynt ailintegreiddio i addysg brif ffrwd lle bo hynny’n ymarferol’. Ond nid oes sylfaen glir o dystiolaeth ar gyfer hyn, nid eglurwyd a fu hyn yn destun ymchwiliad yn ystod y cyfnod datblygu, ac o bosibl gallai mwy o amrywiaeth rhwng lleoliadau (ar sail sybsidiaredd) olygu ei fod yn anoddach i bobl ifanc drosglwyddo o un lleoliad i un arall. Mae gwaith ymchwil y mae WISERD yn ei arwain ar hyn o bryd ar ddiwygio’r cwricwlwm o bersbectifau athro yn dangos bod athrawon a fu’n ymwneud â datblygu’r Meysydd Dysgu a Phrofiad trwy’r broses arloesi wedi methu â dyfynnu enghreifftiau penodol o sut byddai plant o gefndir difreintiedig yn elwa o’r dull gweithredu newydd . Teimlai athrawon a gafodd eu cyfweld fel rhan o’r gwaith ymchwil yma, o leoliadau arloesi ac eraill, hefyd yn ansicr y byddai’r cwricwlwm yn gynhwysol: 31% yn unig o’r athrawon a gafodd gyfweliad fel rhan o’r gwaith ymchiwl hwn ddywedodd eu bod yn meddwl y byddai cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion oedd yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am ddim, ac roedd llai na 20% o’r farn y byddai hynny’n cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion BAME.   Mae hyn yn ategu gwaith ymchwil oedd yn nodi bod angen ymdrin â phroblemau gyda’r Cyfnod Sylfaen, fel bod dulliau gweithredu’r Cyfnod Sylfaen o fudd cyfartal i fechgyn ac i blant sy’n byw mewn tlodi.   Rwyf wedi cyflwyno fy mhryderon am hyn i’r Llywodraeth yn flaenorol, ac wedi gofyn am asesiadau effaith mwy trylwyr, sy’n cyflwyno mesurau lliniaru ar gyfer unrhyw effeithiau negyddol posibl. Un mesur lliniaru o’r fath yw cynnwys dyletswydd yn y ddeddfwriaeth i bob corff perthnasol roi sylw i hawliau plant, gan fod egwyddor cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu yn ganolog i hawliau dynol plant. Byddai’r ddyletswydd hon yn golygu bod angen i leoliadau fonitro, gwerthuso a rhoi sylw i anghydraddoldeb yng nghynnwys y cwricwlwm neu yng nghyswllt deilliannau grwpiau penodol.

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae angen deddfwriaeth i gyflawni nodau’r Bil hwn. Yn ganolog i’r Bill mae hawliau newydd, perthnasol y dylai plant a phobl ifanc eu profi trwy eu haddysg. Mae angen deddfwriaeth i greu’r hawliau hynny.

Mae dau faes arbennig yn y cwricwlwm lle mae angen newid y ddeddfwriaeth ar frys.

Yn gyntaf, mae angen darparu Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant i blant a phobl ifanc, a hynny ar frys, fel profiad gorfodol ar hyd eu haddysg. 

Yn ail, mae’n rhaid diweddaru’r ddeddfwriaeth i alluogi pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i gael profi’r Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae canfyddiadau allweddol y Panel Arbenigwyr Addysg Rhyw a Pherthnasoedd  yn dangos bod y gyfraith bresennol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd wedi dyddio ac nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn cefnogi’r addysg rhyw a pherthnasoedd seiliedig ar hawliau a rhywedd cyfartal y cynghorwyd ysgolion i’w darparu mewn canllawiau blaenorol gan Lywodraeth Cymru.   

Mae rhoi sylfaen statudol i egwyddorion Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a restrir yn y Memorandwm Esboniadol, yn gam hanfodol at gychwyn proses y mae mawr angen amdani yng Nghymru, i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfleoedd ansawdd uchel i ddatblygu eu dealltwriaeth o gydberthynas a rhywioldeb.

Mae’r hawliau dysgu hyn yn un mor bwysig ag unrhyw rai eraill yn y cwricwlwm, ac nid dysgu yw hwn y dylid eithrio unrhyw blentyn na pherson ifanc ohono ar unrhyw sail. Bydd newid deddfwriaethol cysylltiedig ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn helpu i wireddu darpariaethau CCUHP, y mae gan holl blant Cymru hawl i’w derbyn, gan gynnwys:

•          yr hawl i beidio â dioddef camwahaniaethu (Erthygl 2)

•          yr hawl i gael eu clywed, i fynegi barn, ac i fod yn rhan o benderfyniadau (Erthygl 12);

•          yr hawl i gael mynediad i wybodaeth fydd yn caniatáu i blant wneud penderfyniadau am iechyd (Erthygl 17)

•          yr hawl i brofi’r iechyd gorau sy’n bosibl, mynediad at gyfleusterau iechyd, gofal iechyd ataliol, ac addysg a gwasanaethau cynllunio teulu (Erthygl 24)

•          yr hawl i gael addysg sy’n cefnogi pob plentyn i ddatblygu a chyflawni eu potensial llawn ac yn paratoi plant i ddeall eraill a bod yn oddefgar tuag atynt (Erthygl 29)

•          yr hawl i amddiffyniad y llywodraeth rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol (Erthygl 34).

Bydd y newid deddfwriaethol hwn hefyd yn caniatáu’r hawliau cyfreithiol traddodadwy canlynol, sydd hefyd yn berthnasol o dan y Ddeddf Hawliau Dynol a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR):

• yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd (Erthygl 9).

• yr hawl i ryddid mynegiant (Erthygl 10)

• yr hawl i beidio â chael eich amddifadu o addysg (Erthygl 2, Protocol 1) 

Mae datganiad sefyllfa Rhwydwaith Ewropeaidd yr Ombwdsmyn Plant (ENOC) yn 2017 ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Gynhwysfawr  yn datgan bod gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i addysg gynhwysol, gyfannol, o ansawdd uchel am rywioldeb a chydberthynas. Mae hyn yn adleisio Sylwadau Terfynol Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn 2016.  Mewn ymateb i bryderon y Pwyllgor ynghylch amrywioldeb addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r diffyg gwybodaeth gywir i bobl ifanc (Adran 63b) mae’r Pwyllgor yn argymell bod Partïon Gwladol yn sicrhau bod addysg ynghylch cydberthynas a rhywioldeb yn orfodol oddi mewn i gwricwlwm yr ysgol (Adran 64b).

Ceir rhestr o offerynnau cyfreithiol rhyngwladol rhwymol ac anrhwymol sy’n sylfaen ar gyfer y gofyniad i ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ansawdd uchel ar dudalen 1 o ddatganiad ENOC yn 2017 . Yn y cyd-destun rhyngwladol hwn, mae angen newid deddfwriaethol er mwyn dileu hawl rhieni i dynnu plentyn allan o Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae cadw deddfwriaeth sy’n caniatáu i rieni dynnu person ifanc allan o’r pynciau hyn yn atal plant a phobl ifanc rhag cael eu hawliau eu hunain, ac nid yw’n caniatáu i berson ifanc ddewis derbyn addysg cydberthynas a rhywioldeb cyn oed cydsynio cyfreithlon.

Mewn cyd-destun domestig mae hyn eto yn anghydweddus â hawliau dynol plant o dan ddeddfwriaeth ddomestig Deddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR). Yng Nghymru, mae hefyd yn anghydweddus â’r ymrwymiad i CCUHP yng Nghymru sy’n cael ei warantu gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mewn cyd-destun polisi yng Nghymru bydd gwneud y newid deddfwriaethol hwn hefyd yn datblygu cynhwysiad addysg Rhyw a Pherthnasoedd fel rhan o gynllun Dyfodol Llwyddiannus, ac Amcan 2 yn Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2016-2021)  sy’n datgan bod rhaid i’r cwricwlwm gynnwys pwysigrwydd cydberthynas ddiogel, gyfartal a iach.

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Rwy’n rhagweld y ceir llawer o fanylion mewn ymateb i’r cwestiwn hwn gan arweinwyr addysg, ymarferwyr a phlant a phobl ifanc eu hunain, y mae pawb ohonynt mewn sefyllfa well i asesu rhwystrau ar sail eu profiad cyfredol o ddatblygu’r cwricwlwm. Hoffwn innau gynnig cefnogaeth fy swyddfa i drafod a chael hyd i atebion posibl i’r heriau a allai godi yn sgîl y broses ymgynghori hon.

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Eto, rwy’n rhagweld y ceir llawer o fanylion mewn ymateb i’r cwestiwn hwn gan arweinwyr addysg, ymarferwyr a phlant a phobl ifanc eu hunain, y mae pawb ohonynt mewn sefyllfa well i asesu rhwystrau ar sail eu profiad cyfredol o ddatblygu’r cwricwlwm. Hoffwn innau gynnig cefnogaeth fy swyddfa i drafod sut gallai’r Bil ymateb yn well i’r heriau a godir trwy’r broses ymgynghori hon.

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Paredd Meysydd Dysgu a Phrofiad yn ystod cymwysterau 14-16

Mae’n anodd asesu i ba raddau bydd pobl ifanc yn profi’r cwricwlwm llawn rhwng 14 ac 16 oed, gan fod y gwaith o ystyried cymwysterau 14-16 ar waith ar hyn o bryd ac yn datblygu. Yng ngoleuni hyn, rwy’n nodi bod tystiolaeth ynghylch effaith arholi ar ddysgu ac addysgu yn dangos y gall cyfyngu ar y cwricwlwm fod yn effaith niweidiol a achosir gan arholiadau allanol , , gydag ysgolion yn dyrannu mwy o amser addysgu ar gyfer pynciau sy’n cael eu harholi ac yn lleihau’r amser ar gyfer pynciau lle nad oes prawf ffurfiol.   Gall y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant a’r Maes Dysgu a Phrofiad Celfyddydau Mynegiannol fod yn arbennig o agored i gael eu gwthio i’r ymylon ar gyfer pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Ac mae’r un peth yn wir am elfennau trawsgwricwlaidd fel Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Wrth ddatblygu cymwysterau mae’n rhaid rhoi mesurau ar waith i sicrhau nad yw’r cwricwlwm yn cael ei gyfyngu ar gyfer llawer o ddysgwyr o 14 oed ymlaen, dylai hyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn colli cyfle i astudio meysydd yn y cwricwlwm sy’n gallu cael eu gwthio i’r cyrion o dan y system bresennol. Eto, byddai sylw dyledus i CCUHP yn golygu bod rhaid i weithwyr proffesiynol gael eu tywys gan yr angen am addysg gyfannol, fel y mynegwyd yn Erthygl 29, a byddai hynny’n gwrthweithio’r risg o ddylunio cwricwlwm cyfyng ar gyfer pobl ifanc hŷn.

Heriau wrth werthuso effaith y cwricwlwm

Rhaid bod dau ddiben cyffredinol i asesu: yn gyntaf darparu asesiad ffurfiannol, cefnogol ar gyfer ac ar ffurf dysgu, mewn modd sy’n cyd-fynd â hybu llesiant a hunan-barch plant a phobl ifanc. Rhaid mai’r diben arall cyffredinol yw casglu gwybodaeth er mwyn gwerthuso addysgu, dysgu a dull gweithredu’r cwricwlwm yn gyfan.

Nid yw’r wybodaeth hon yn galw am brofion safonedig, a gellir ei seilio ar wybodaeth broffesiynol ynghylch cynnydd neu ddull ymchwil sy’n defnyddio samplu ac arsylwi. Ni ddylid rhoi cyhoeddusrwydd i hyn mewn tablau cynghrair ysgolion na’i defnyddio mewn system atebolrwydd y rhoddir pwys mawr arni. Ond mae angen dull gweithredu a ddatblygwyd yn ofalus, sy’n cynhyrchu data cymaradwy o un dosbarth i’r nesaf, er mwyn medru gwerthuso’n wrthrychol sut mae diwygiadau addysg yn effeithio ar bob plentyn a pherson ifanc, a sicrhau sylfaen o wybodaeth ar gyfer cyflawni gwelliannau – mae hyn yn wir ar lefel ysgol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol.

Nid yw canllawiau asesu’r cwricwlwm cyfredol  yn cyflwyno dull cenedlaethol cyson o gynhyrchu data cymaradwy, ac mae hynny’n awgrymu y gallai fod yn heriol neu hyd yn oed yn amhosibl cymharu data ar lefel leol neu genedlaethol. Bydd hynny’n golygu na fydd o reidrwydd yn bosibl adnabod grwpiau o bobl ifanc sy’n cael eu rhoi o dan anfantais gan ddulliau gweithredu newydd, ac mae goblygiadau penodol i hynny yng nghyswllt cau’r bwlch cyrhaeddiad, gan fod y dystiolaeth yn dangos mai defnydd trylwyr o ddata yw un ffordd o gyflawni hynny.  

Er fy mod i’n cefnogi llawer o’r gweithredu sy’n cael ei hyrwyddo yng nghyswllt cymedroli fel modd i rannu a datblygu arfer da ym maes dysgu ac addysgu, dylai’r Llywodraeth sicrhau bod data cymaradwy yn cael ei gynhyrchu ledled Cymru er mwyn gallu gwerthuso effaith diwygio addysg ar wahanol grwpiau o blant wrth i’r cwricwlwm ddatblygu.  Ni ddylid rhoi pobl ifanc mewn sefyllfa sy’n golygu nad oes modd gwerthuso effaith diwygio ar wahanol grwpiau ond adeg yr asesu crynodol yn 16 oed, gan y bydd hynny’n rhy hwyr ar gyfer y carfannau cyntaf o bobl ifanc sy’n dysgu o dan drefniadau’r cwricwlwm newydd. Heb fodd i gynhyrchu data cymaradwy trwy’r broses ffurfiannol barhaus, mae perygl hefyd y bydd asesu crynodol yn creu mwy fyth o bwysau ar bobl ifanc a’u hathrawon, gan na fydd dull arall cenedlaethol cydnabyddedig o werthuso a dangos cynnydd a dysgu.

Yn fesurau i ddiogelu rhag y maglau hyn, rwy’n argymell:

-           Y dylai’r Llywodraeth sicrhau bod peth data cymaradwy yn cael ei gynhyrchu ledled Cymru, fel bod modd gwerthuso effaith diwygio addysg ar wahanol grwpiau o blant wrth i’r cwricwlwm ddatblygu.

-           Dylai asesu tegwch fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer yr adolygiad ôl-weithredu a’r gwerthuso parhaus.

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nid wyf wedi fy narbwyllo bod y Memorandwm Esboniadol yn cymryd i ystyriaeth yn ddigonol gost gyfunedig cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.  Ni sonnir am Ddeddf 2018 ym Mhennod 8 o’r Memorandwm Esboniadol. Nid oes asesiad penodol o effaith ariannol y cwricwlwm newydd ar ysgolion AAA nac ar y ddarpariaeth ADY mewn ysgolion prif ffrwd.

Mae’n bosibl bod hynny oherwydd bod costau gweithredu Deddf 2018 yn cael eu cyfrif mewn man arall, ond rwy’n teimlo’n gryf y bydd cyfuno gweithredu’r ddwy Ddeddf ar yr un pryd yn cynhyrchu goblygiadau ariannol ynddo’i hun (ac y dylai hynny ddigwydd). Er enghraifft, bydd angen cryn dipyn o ddysgu proffesiynol er mwyn dirnad sut mae deall y ddarpariaeth ADY yn unol â’r cwricwlwm newydd. Bydd angen i ymarfer ddatblygu er mwyn cyfuno’r disgwyliadau o ran dilyniant, addysgeg a dylunio’r cwricwlwm a geir yn y Bil hwn, ochr yn ochr â’r disgwyliadau ar gyfer Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (ALP) a chyfranogiad yn Neddf 2018. Ni ddylai gweithwyr proffesiynol fod yn profi dysgu proffesiynol ar ffurf ‘dysgu am y cwricwlwm ac asesu’ a ‘dysgu am Anghenion Dysgu Ychwanegol’; os yw diwygio addysg i fod yn drawsffurfiannol, mae angen cyfuno’r ddau beth, a bydd goblygiadau ariannol i ddylunio a chyflwyno’r dysgu yma ar y cyd. 

Yr iaith Gymraeg

Rhoddir sylw i ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a digonolrwydd athrawon sy’n gallu dysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond nid yw’r gweithlu arbenigol yn cael ei gynnwys yn yr ystyriaeth hon, er bod digon o sôn wedi bod am fylchau yn y gweithlu arbenigol dwyieithog .  Bydd gweithwyr proffesiynol arbenigol yn allweddol i roi’r cwricwlwm ar waith ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a dylid ystyried hynny fel rhan o gostau gweithredu’r cwricwlwm. 

Yn yr un modd, mae angen mwy o weithwyr proffesiynol sy’n gallu dysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn lleoliadau EOTAS. Fel y nododd Estyn, mae diffyg darpariaeth EOTAS ddwyieithog yng Nghymru.  Mae’n hanfodol rhoi sylw i hyn wrth weithredu’r cwricwlwm ar gyfer plant a phobl ifanc mewn lleoliadau EOTAS. 

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Nid wyf wedi fy narbwyllo bod gwir gost y trawsffurfio sy’n angenrheidiol i sicrhau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb effeithiol yn cael ei hadlewyrchu yn y Memorandwm Esboniadol. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn ystyried holl argymhellion y panel Addysg Rhyw a Pherthnasoedd , y mae’r Gweinidog wedi derbyn pob un ohonynt, ac y bydd pob un ohonynt yn allweddol i ddatblygu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb effeithiol.

Yn arbennig, dylai’r Memorandwm Esboniadol roi cyfrif am sefydlu rhwydwaith o arbenigwyr Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a datblygu rolau ymarferwyr arweiniol mewn lleoliadau. Bydd angen adnoddau ar gyfer y ddau gam yma, ond os na chymerir y camau hyn bydd y newid deddfwriaethol yn llai llwyddiannus.

Er bod cydnabyddiaeth gyffredinol yn y Memorandwm Esboniadol y bydd angen dysgu proffesiynol er mwyn i athrawon gaffael yr wybodaeth a’r hyder i wreiddio addysg cydberthynas a rhywioldeb yn eu haddysgu, nid yw’r Memorandwm Esboniadol chwaith yn fy marn i yn nodi’r dysgu cyffredinol cadarn sy’n angenrheidiol er mwyn i’r proffesiwn gaffael yr hyder angenrheidiol i gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb effeithiol, hyder y gwelwyd nad yw ar gael yn y proffesiwn ar hyn o bryd.

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

Rwy’n pryderu am bŵer Gweinidogion o dan adran 5 o’r Bil i greu Rheoliadau er mwyn ychwanegu, dileu neu ddiwygio’r meysydd dysgu a phrofiad, yr elfennau gorfodol a’r sgiliau trawsgwricwlaidd a nodwyd. Er fy mod i’n derbyn bod hyn yn caniatáu hyblygrwydd dros amser er mwyn ymateb i newid cymdeithasol, technolegol a datblygiadau ym maes ymchwil addysg, rwy’n pryderu y gallai hyn greu risg ar gyfer rhai Meysydd Dysgu a Phrofiad ac elfennau gorfodol eraill sydd heb ennill eu plwyf i’r un graddau. Gallai’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant ac elfen orfodol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, sydd fel ei gilydd yn allweddol i’r cwricwlwm hwn, fod yn arbennig o fregus yn wyneb newid a her gwleidyddol. 

Rhoddwyd pwerau ar wahân i Weinidogion Cymru, o dan Adran 6 (1) o’r Bil, i ddiwygio’r codau Beth sy’n Bwysig, sy’n cyflwyno’r dysgu o dan bob Maes Dysgu a Phrofiad. Rwy’n cwestiynu a oes angen i’r rheoliadau gynnwys hefyd bŵer i ddileu Meysydd Dysgu a Phrofiad cyfan neu elfennau gorfodol. Byddai newid i’r pŵer hwn fel ei fod yn caniatáu ychwanegu a diwygio Maes Dysgu a Phrofiad neu elfen orfodol yn dal i roi hyblygrwydd, ond hefyd yn sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y Meysydd Dysgu a Phrofiad a’r elfennau gorfodol presennol – sydd i gyd wedi’u penderfynu trwy broses hir o ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd a amlinellir ym Mhenodau Tri a Phedwar o’r Memorandwm Esboniadol.

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

Deddfu ar gyfer y Dull Ysgol-gyfan o ymdrin ag iechyd a lles meddyliol

Yn y gorffennol rydw i wedi awgrymi fod angen Sylfaen statudol ar gyfer y dull ysgol-gyfan o ymdrin ag iechyd a lles meddyliol. Rydw i’n falch felly i weld bod y canllawiau fframwaith drafft ar gyfer ymgorffori’r dull ysgol gyfan , sef ar hyn o bryd wedi’i chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad, yn nodi bod y canllawiau yma yn statudol o dan y Ddeddf Addysg 2002. Byddaf yn ymateb yn llawn i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllaw drafft yma i groesawi’r Sylfaen statudol ond hefyd amlinellu rhai gweithredoedd ychwanegol sydd angen i sicrhau eglurdeb rôl ar gyfer y byrddau iechyd.

Oherwydd y datblygiad hwn, fy asesiad yw nad oes bellach angen ystyried defnyddio darpariaeth ychwanegol ar gyfer y dull ysgol gyfan yn y Bil Cwricwlwm ac Asesiadau.

 

Newidiadau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y ddarpariaeth o ran Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cyd-fynd â hawliau dynol plant.

Rwy’n barnu bod angen newid Atodlen 1 yn sylweddol, hyd yn oed os ychwanegir dyletswydd sylw dyledus i CCUHP, oherwydd ar hyn o bryd mae’r atodlen hon yn gwbl groes i CCUHP.   

Mae Atodlen 1 yn cyflwyno’r gofynion o ran y cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer ysgolion heb gymeriad crefyddol, ac ar gyfer ysgolion sylfaen a gwirfoddol reoledig crefyddol eu cymeriad, ac ar gyfer ysgolion gwirfoddol gymorthedig sydd â chymeriad crefyddol. Mae’r darpariaethau hyn yn dangos nad yw hawliau dynol plant sy’n mynychu lleoliadau crefyddol eu natur wedi cael eu hystyried i’r un graddau â rhai plant eraill: yn gyntaf, oherwydd nad ydynt o reidrwydd yn cael mynediad at addysg blwraliaethol yn unol â gofynion hawliau dynol o dan CCUHP ; yn ail, oherwydd bod eu rhieni’n gallu penderfynu ar y cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg maen nhw’n ei brofi.  

I mi, mae hon yn ymgais i gyfaddawdu nad yw’n cynnal hawliau plant fel prif ystyriaeth. Mae’n nodi bod barn y rhiant yn cael y lle blaenaf os bydd gwahaniaeth barn rhwng y plentyn a’r rhiant, ac mae hefyd yn amddifadu plentyn o fynediad at addysg blwraliaethol. Yn ogystal â pheidio â chynnal darpariaethau CCUHP o ran cyfranogiad, addysg a chydraddoldeb, mae cynigion ynghylch lleoliadau crefyddol eu natur hefyd yn methu cymryd i ystyriaeth rôl ddiogelu addysg grefyddol blwraliaethol wrth greu cymunedau cydlynus, oddi mewn i’r lleoliad addysg a’r tu allan iddo, ac felly’n tanseilio agenda PREVENT, dull gweithredu seiliedig ar gydraddoldeb o ymdrin ag addysg gwrthfwlio, ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Er y gall plant a phobl ifanc fynychu gwahanol fathau o leoliad addysgol, mae eu hawliau dynol o dan CCUHP yr un fath. Ond mae gofynion y Bil mewn perthynas â lleoliadau crefyddol eu natur yn gwbl groes i’r hawliau dynol a warantir i blant gan CCUHP, a hefyd yn anghyson â dileu hawl rhieni i dynnu plant a phobl ifanc allan o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a byddent i bob pwrpas yn amddifadu rhai plant o fynediad i’r cwricwlwm llawn. Mae hyn yn gwrthddweud yn llwyr ddymuniadau’r Llywodraeth a fynegwyd gan y Gweinidog yn ei datganiad ar 21 Ionawr 2020 .   Rwy’n anghytuno’n gryf â symud ymlaen â’r ddarpariaeth hon. 

Nid wyf yn derbyn yr honiad yn 3.49 o’r Memorandwm Esboniadol bod hon yn ddarpariaeth angenrheidiol i alluogi hawl bresennol ‘rhieni yn y system addysg yng Nghymru, ac yn wir yn y Deyrnas Unedig, i ddewis addysg grefyddol ar gyfer eu plentyn’ oherwydd na fydd gofyn bod ysgolion crefyddol eu natur yn cynnwys gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg plwraliaethol i bob plentyn yn newid cymeriad yr ysgol. Byddai ethos ac ymarfer ysgolion crefyddol eu natur yn dal i gael eu tywys gan weithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau’r ffydd – a byddai hynny’n cael ei adlewyrchu mewn addoliad ar y cyd, trwy roi sylw i ddigwyddiadau a dysgeidiaeth grefyddol, ac yng ngwerthoedd a dull gweithredu’r ysgol. Nid yw ethos a diwylliant ysgol gyfan yn atal dull plwraliaethol o addysgu a dysgu am grefydd trwy faes llafur, ac ni ddylai wneud hynny.

Mae goblygiadau ymarferol sylweddol hefyd i’r dull gweithredu hwn (yn arbennig mewn cwricwlwm integredig) ac mae’n aneglur sut byddai ysgolion yn rheoli hyn o ran amserlennu a staffio. O ganlyniad, ymddengys bod hwn yn ateb a gynigiwyd na ellir ei weithredu’n ymarferol.

Rwy’n argymell felly, hyd yn oed o gynnwys dyletswydd sylw dyledus i CCUHP, fod Atodlen 1 yn cael ei newid i sicrhau bod gofyniad plwraliaethol yn berthnasol i addysg ym mhob lleoliad, a bod gallu rhieni i benderfynu pa fath o addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mae eu plentyn yn ei derbyn yn cael ei dileu, gan nad yw’n gyson â hawliau dynol plant a phobl ifanc i gymryd rhan eu hunain mewn penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu bywyd (Erthygl 12); na chwaith yn gyson â hawl ddynol plant i gael addysg gyfannol sy’n hybu dealltwriaeth ‘ymhlith yr holl bobloedd, grwpiau ethnig, cenedlaethol a chrefyddol, a phobl o darddiad brodorol‘ (Erthygl 29).

Asesiad Effaith ar Hawliau Plant

Mae’r Asesiad Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) yn y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at Erthyglau 28 a 29 yn unig, ond yn methu â chydnabod yr ystod eang o hawliau mae hyn yn effeithio arnynt, ac y gallai rhai ohonynt wynebu risg, er bod llawer o bosibl yn cael eu gwella. Rwyf wedi nodi’r manteision cadarnhaol hyn a’r risgiau i hawliau plant mewn sawl man yn fy ymateb, ond dyma ddwy enghraifft:

-           mae’r hawl i amddiffyniad gan y llywodraeth rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol yn cael ei gwella gan ddarpariaethau’r Bil yng nghyswllt Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (Erthygl 34).

-           mae’r hawl i gyfranogiad mewn penderfyniadau yn wynebu risg yng nghyswllt plant mewn lleoliadau ffydd oherwydd y gofynion Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sy’n ymwneud â lleoliadau ffydd (Erthygl 12).

Mae’r methiant i ddadansoddi’r effaith ar hawliau dynol plant yn golygu bod y Bil hwn yn cydymffurfio llai nag y dylai â CCUHP. Byddai dadansoddiad priodol yn amlygu’r angen am newidiadau mewn rhai achosion (er enghraifft newidiadau i’r gofynion Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg), a lliniaru mewn achosion eraill (er enghraifft trwy’r adolygiad gweithredu a gwerthuso parhaus ar drefniadau’r cwricwlwm ac asesu). Mae’r dadansoddiad rwyf wedi’i gynnig yn fy ateb i 1.2 yn dangos bod angen llawer o newidiadau i sicrhau bod y Bil hwn yn cydymffurfio’n llawn â CCUHP, a bod angen dybryd am ddyletswydd sylw dyledus i CCUHP ar wyneb y Bil.

Mae’r CRIA hefyd yn nodi ymwneud fy swyddfa â dylunio’r cwricwlwm. Yn gryno, rwy’n barnu bod fy swyddfa wedi ymwneud â’r broses hon trwy gyfrannu at yr elfennau canlynol o’r canllawiau cwricwlwm:

-           Datblygu ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc a luniwyd i ganiatáu cyfranogiad eang wedi’i dargedu gan blant a phobl ifanc o grwpiau penodol;

-           Cynnwys rhestr wirio i leoliadau ynghylch cwestiynau allweddol i’w hystyried wrth ddylunio cwricwlwm lleol er mwyn sicrhau peth cysondeb;

-           Cynnwys addysg hawliau dynol a CCUHP yn y canllawiau cwricwlwm trosfwaol;

-           Cynnwys canllawiau i gefnogi plant a phobl ifanc i gyfranogi yn nyluniad cwricwlwm lefel ysgol yn y canllawiau trosfwaol;

-           Cynnwys dysgu incrementaidd ynghylch hawliau plant a hawliau dynol ym Meysydd Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant a’r Dyniaethau;

-           Datblygu dealltwriaeth o hawliau plant ymhlith gweithwyr proffesiynol yn ystod cyfnod cyd-adeiladu’r Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Ond collwyd sawl cyfle, a mannau lle byddwn i wedi hoffi i’r cwricwlwm fynd ymhellach o ran cynnwys hawliau dynol plant. Gallai cyfranogiad plant a phobl ifanc fod wedi cael ei integreiddio’n well i’r broses ddatblygu, a bod yn fwy systematig a strategol. Gallai hawliau plant a CCUHP fod wedi cael eu hintegreiddio’n benodol i bob Maes Dysgu a Phrofiad. Ond yn bwysicaf oll, dylai hawliau plant a CCUHP gael eu hintegreiddio’n uniongyrchol i’r ddeddfwriaeth ei hun.  Nid yw addysg hawliau dynol na CCUHP yn cael eu cynnwys ar unrhyw adeg yn y Bil. Bydd yr holl ganllawiau cwricwlwm cefnogol sy’n manylu ar sut caiff hawliau dynol plant eu galluogi a’u cyflawni trwy’r cwricwlwm yn destun datblygiad parhaus a newid. O ganlyniad, gallai’r holl enillion a restrwyd gennyf uchod gael eu colli. Yr unig fodd y gall y Llywodraeth sicrhau ymrwymiad hirhoedlog i hawliau dynol plant a phobl ifanc trwy eu haddysg yw cynnwys hynny mewn deddfwriaeth sylfaenol. Mae’n rhaid cynnwys dyletswydd sylw dyledus ar y Bil hwn.